Fe glustnodir rheolwr penodol ar gyfer pob cleient a fydd yn gwarantu eich bod yn trafod y gwaith gyda’r un person pob tro. Os bydd amgylchiadau na ragwelwyd yna bydd dirprwy reolwr yn gyfrifol am gymryd yr awenau er mwyn gwarantu dilyniant. Byddai’n bosibl i chi hefyd i gysylltu’n uniongyrchol ag aelod o’r Uwch Dîm Rheoli os bydd angen.
Cofnodir y dasg i’w chyfieithu ac fe’i rhoddir i gyfieithydd penodol er mwyn cwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Bydd pob darn o waith yn cael ei roi i’r cyfieithwyr hynny sydd a’r arbenigedd priodol ar gyfer y maes hwnnw, er enghraifft, boed yn gyfieithiad creadigol, cyfieithiad technegol neu gyfreithiol. Bydd hyn yn sicrhau fod eich dogfen neu ddogfennau yn cael eu paratoi gan gyfieithydd sydd ag arbenigedd a phrofiad yn eich maes.
Ar ôl cwblhau’r drafft cyntaf bydd y cyfieithiad yn cael ei olygu a’i brawf ddarllen gan aelod arall o’r tîm er mwyn gwirio a gwarantu cywirdeb a chysondeb o fewn a rhwng dogfennau.
Os bydd angen i’r cleient ddylunio neu fformadu’r gwaith yna byddwn yn barod i brawf ddarllen y gwaith terfynol er mwyn gwirio’r cyfan. Nid oes tâl ychwanegol am y gwasanaeth hwn.
Rydym yn defnyddio meddalwedd TransFLOW© i reoli llif y gwaith. Mae’r meddalwedd hwn yn ein galluogi i gadw golwg ar hynt a helynt pob dogfen drwy’r gwahanol gamau. Rydym yn rheoli llif y gwaith yn ofalus er mwyn sicrhau bod y tîm yn gallu cyflawni gofynion pob darn o waith yn unol â’r hyn a nodwyd ar ddechrau’r gwaith hwnnw.
Mae egwyddorion rheoli ansawdd yn rhan annatod o baratoi pob darn o waith ac rydym yn mesur yr egwyddorion hynny drwy eu monitro’n barhaus drwy ein Polisi Ansawdd.