Helpu’r genedl
i gyfathrebu.
Mae ein gwasanaethau cyfieithu a chyfathrebu yn helpu sefydliadau i gysylltu â phob cynulleidfa yng Nghymru, gan ddewis y geiriad, yr iaith, a’r fformat gorau i gyrraedd mwy o bobl, i feithrin dealltwriaeth, ac i gryfhau cysylltiadau.
Gweithio o Gymru.
Rydym yn gwmni balch o Gymru, a gallwn roi ein harbenigedd diwylliannol ac ieithyddol ar waith i’ch helpu i gyfleu eich neges yn ystyrlon ar draws ieithoedd, fformatau a chymunedau.
Dull
Bwriad a brwdfrydedd
- Rhannu eich amcan chi.
Mae nod gyffredin yn cryfhau’r gwaith, felly byddwn ni’n mabwysiadu eich amcan chi, yn cydwithio â’ch staff, ac yn eich helpu i sicrhau bod eich neges yn cyrraedd pawb a ddylai ei chlywed. - Cyfathrebu byw.
I gyfathrebu’n dda, rhaid i’r cynnwys deimlo’n fyw. Gallwn greu negeseuon, cyfieithiadau a fformatau sy’n apelio i’r galon yn ogystal â’r meddwl. - Lle i bob llais.
Mae Cymru’n gôr o leisiau, a phob un yn haeddu cael ei glywed. Gyda phwyll a gofal, gallwn ddewis y geiriad, yr iaith, a’r fformat gorau i ehangu eich cynulleidfa.
Canlyniad
Rydym yn helpu sefydliadau i gyfleu’r negeseuon pwysig.
Byddwn yn sicrhau bod eich neges yn gweddu i’ch cynulleidfa, waeth beth fo’r testun, boed yn hawliau, diogelwch, ystyr diwylliannol, cyfleoedd bywyd, neu ymgysylltu â’r gymuned.