Ein cynulleidfa

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau sy’n awyddus i siarad â Chymru

Rydym yn hwyluso gwaith sefydliadau masnachol, diwylliannol a sifil trwy eu helpu i ddewis y neges, yr iaith, a’r fformat mwyaf addas er mwyn cyfathrebu â phobl a chymunedau Cymru.

Adnodd
BBC
Channel 4
Archif Ddarliedu Cymru
Awdurdod Cyllid Cymru
LLyfrgell Genedlaethol Cymru
GIG Cymru
S4C
LLywodraeth Cymru
Flowbird
Marie Curie
Seren

Sefydliadau sector cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol

Creu gwlad er budd pawb

Llywodraeth, awdurdodau lleol, darparwyr iechyd, gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau, cymdeithasau tai, gweithredwyr trafnidiaeth ac unrhyw sefydliad arall sy’n ymwneud â hawliau, diogelwch, llesiant a mynediad at wasanaethau hanfodol.

I’r sefydliadau hyn, gall peidio ag ystyried goblygiadau iaith, llythrennedd neu anabledd, rwystro pobl rhag cael mynediad at eu gwasanaethau, gan ledaenu’r bwlch anfantais ac erydu ymddiriedaeth pobl yn y sefydliadau y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw.

Dyna pam ein bod yn helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol i lunio negeseuon sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd angen i bobl ei wybod, ei ddeall, a’i wneud. Gan wneud polisi, canllawiau, a gwybodaeth yn eglur ar draws gwahanol ieithoedd, cymunedau, a fformatau, gallwn helpu pawb i ddeall ac i gael mynediad at wasanaethau a chymorth hanfodol.

Anfonwch eich gwahoddiad.

Eglurwch beth mae eich sefydliad yn ceisio’i wneud, a byddwn yn sicrhau bod pawb yn cael gwahoddiad.

Dechrau’r sgwrs