Ein Gwaith
Mae gwahoddiad i bawb.
Rydym yn helpu sefydliadau i ymestyn eu cyrhaeddiad, meithrin dealltwriaeth a dyfnhau eu hymgysylltiad drwy gymryd gofal wrth greu deunydd cyfathrebu sy’n taro deuddeg bob tro — o’r syniad cyntaf hyd at yr effaith barhaol.
Rydym yn creu cysylltiadau ystyrlon ledled Cymru.
Nid digwyddiad yw sgwrs, ond yn hytrach, mae’n llifeiriant — sy’n dechrau gyda syniad, yn datblygu o ganlyniad i safbwyntiau unigryw pob cyfranogwr, sy’n dod yn fyw trwy ddefnyddio geiriau, delweddau a fformatau i ddyfnhau’r dealltwriaeth, ac sy’n dal i fyw wrth i fwy o bobl ddod o hyd iddo, cymryd rhan ynddo, ac ychwanegu ato.
Rydym yn cefnogi cyfathrebu mewn pedwar cam cysylltiedig: siapio’r syniad gwreiddiol gyda nod clir mewn golwg; cyfieithu ac addasu negeseuon ar gyfer anghenion unigryw pob cynulleidfa berthnasol; creu’r asedau a’r fformatau cywir i sicrhau dealltwriaeth, hygyrchedd ac ymgysylltiad; a sicrhau bod y gwaith sy’n deillio o hyn yn dal i feithrin perthnasoedd hirdymor.
A p’un ai eich bod angen ein cymorth ar gyfer y pedwar cam neu dim ond un, rydym yma i helpu.
Strategaeth
Ennyn ymateb wrth gyfathrebu
Cyn y gallwch chi addysgu, diddanu, neu gysylltu’n effeithiol, rhaid i chi fod â syniad clir o ran pwy ddylai fod yn rhan o’r gwaith; beth rydych chi eisiau ei gyflawni; ac, yn fwy na dim, sut fydd gwahanol anghenion cynulleidfaoedd – o ran iaith, hygyrchedd, a fformat – yn effeithio ar eich neges.
Dyna pam ein bod yn aml yn cydweithio â sefydliadau o’r cychwyn cyntaf, er mwyn deall cynulleidfaoedd, siapio negeseuon ac ystyried sut y gallai iaith, hygyrchedd a fformat ddylanwadu ar gyfeiriad y gwaith – cyn iddi fod yn anodd newid penderfyniadau pwysig.
- Gallwn gynnig:
- Cynllunio cyfathrebu
- Dylunio negeseuon newid ymddygiad
- Ymchwil a phrofion cynulleidfa
- Datblygu ystyr
- Cynllunio iaith a hygyrchedd
Addasu
Creu negeseuon sy’n teithio’n bellach
Mae gan Gymru gyfoeth o wahanol ieithoedd, tafodieithoedd, galluoedd, a hunaniaethau, ac mae cysylltiad ystyrlon yn dibynnu ar barch tuag at gyd-destun a phrofiadau pob un o’r cymunedau hyn.
Dyna pam nad yw cyfieithu geiriau o un iaith i iaith arall yn ddigon, ond yn hytrach, rydym yn trosi’r ystyr o’r naill gyd-destun i’r llall – gan roi sylw i gywair, amrywiadau diwylliannol, ac anghenion hygyrchedd er mwyn helpu sefydliadau i gysylltu â chymunedau a fyddai y tu hwnt i’w cyrraedd fel arall.
- Gallwn gynnig:
- Cyfieithu
- Lleoleiddio a chyd-greu
- Addasiadau Iaith Syml a Hawdd ei Ddarllen
- Addasiadau diwylliannol a chywair
- Datblygu terminoleg
Dylunio
Creu cynnwys sy’n taro deuddeg bob tro
Gan na fydd yr un neges yn taro pob cynulleidfa’r un ffordd, rhaid ystyried y dull cyflwyno’n ofalus er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu ei deall.
Dyna pam ein bod yn meddwl am sut bydd pob cynulleidfa’n gweld ac yn ymgysylltu â’ch neges – gan fynd y tu hwnt i’r dewis o eiriau er mwyn creu’r cyfuniad iawn o fformatau ysgrifenedig, clyweledol, graffig a rhyngweithiol er mwyn sicrhau’r ddealltwriaeth a’r ymgysylltiad gorau posibl.
- Gallwn gynnig:
- Is-deitlo a sgrindeitlo
- Trawsgrifio
- Cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain a sainddisgrifio
- Trosleisio a dybio
- Cyfieithu ar y pryd
- Dogfennau, fideo, animeiddiadau, gwefannau a rhaglenni hygyrch.
Ehangu
Troi neges yn sgwrs
Yn y byd digidol sydd ohoni, gall gwerth cynnwys bara ymhell y tu hwnt i hyd yr ymgyrch, y digwyddiad neu’r ddarllediad gwreiddiol. Mae’r we, y cyfryngau cymdeithasol, ac yn fwyfwy AI, yn golygu bod cynnwys yn aros a’r sgwrs yn parhau.
Dyna pam ein bod yn helpu sefydliadau i sicrhau y gall pobl ganfod, rhannu, ac ailddefnyddio eu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd, ieithoedd a fformatau newydd dros amser.
- Gallwn gynnig:
- Ailbwrpasu cynnwys
- Cyfieithu ac is-deitlo archifau
- Trawsgrifio a chrynhoi
- Darganfyddadwyedd cynnwys a metadata
- Cofau cyfieithu a rheoli geirfaoedd
- Mesur a mireinio canlyniadau cyfathrebu
Darparu
Rhannu eich bwriad chi
Byddwn ni’n creu’r cynnwys mwyaf priodol ac addas i’r gynulleidfa, y cyd-destun, a’r bwriad dan sylw. Mae ein prosesau arolwg mewnol cadarn yn sicrhau bod ein gwaith yn cael ei olygu a’i brawfddarllen yn drylwyr neu’n cael sicrwydd annibynnol gan ail aelod o’r tîm er mwyn cywirdeb, cysondeb, ac addasrwydd. Bydd gan bob darn o waith ei reolwr cyfrif penodol, er mwyn sicrhau cysondeb o’r briff hyd at gwblhau, a chysondeb rhwng gwahanol elfennau’r gwaith wrth iddynt ddatblygu.
- Safon sicrhau ansawdd ISO 9001
Prosesau cadarn er mwyn sicrhau cysondeb ansawdd a gwelliant parhaus. - Cwmni cydnabyddedig Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Cydnabyddiaeth allanol o safonau ieithyddol proffesiynol. - 99.57% o’n gwaith yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen a gytunwyd
Dewch â’ch deunydd fel ag y mae.
Does dim rhaid cael manyleb orffenedig cyn cysylltu â ni. Dewch i gael sgwrs am eich bwriad, eich cynulleidfa, a ble rydych chi arni.