Gwybodaeth am Cyfatebol
Helpu’r genedl gyfathrebu
Rydym ym credu y dylai pawb yng Nghymru allu bod yn rhan o’r sgwrs ddiwylliannol, fasnachol, a chenedlaethol.
Mae pob sefydliad sy’n cyfathrebu yng Nghymru yn rhan o’r sgyrsiau hynny, boed hynny wrth gynnig gwasanaeth hanfodol, rhannu stori, creu cyfle, neu feithrin perthynas â chwsmer neu gymuned. Waeth beth fo’r bwriad, rydym yma i sicrhau bod y bobl iawn yn clywed eich neges.
Cwmni balch o Gymru
Mae ein staff yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau rydych chi’n ceisio eu cyrraedd. Maen nhw’n mynd i’r cyngherddau, y gemau, y cynadleddau, y gwyliau, yr eisteddfodau, a’r digwyddiadau amaethyddol sy’n rhan mor annatod o fywyd Cymru. O’r ddinas i’r wlad, o’r Gymraeg i’r Saesneg, o gymuned i gymuned, mae gennym y profiad a’r ddealltwriaeth angenrheidiol. Rydym yn gwmni balch o Gymru, a gallwn roi ein harbenigedd diwylliannol ac ieithyddol ar waith i’ch helpu i gyfleu eich neges yn ofalus ac yn ystyrlon o’r naill iaith, fformat, neu gymuned i’r llall.
Etifeddiaeth iaith a chreadigrwydd
Mae Cyfatebol yn rhannu ei wreiddiau ag Atebol, cwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf ym meysydd cyhoeddi, cyfieithu, a theledu. Nod Cyfatebol yw trosi’r etifeddiaeth honno yn wasanaeth iaith a chyfathrebu arbenigol, gan gadw’r un parch at greadigrwydd, yr un gofal am gynulleidfaoedd, a’r un llygad golygyddol craff.
Yr etifeddiaeth hon sy’n tywys ein gwaith rhwng ieithoedd, fformatau a chymunedau, gan drosglwyddo ystyr, nid geiriau, er budd cynulleidfaoedd newydd.
Arloesi’n agos i adre
Mae cynnal ein traddodiad creadigol, hefyd yn golygu croesawu offer sy’n hwyluso’r gwaith. Gall hynny gynnwys mabwysiadu offer llif gwaith, deallusrwydd artiffisial, neu integreiddio â systemau ein cwsmeriaid. Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn technolegau sy’n ysgafnhau’r baich mecanyddol ac yn gwella ein gallu i ymateb.
Ond mae pendraw i hyn – mabwysiadu technoleg pan fo hynny’n ein gwneud yn fwy effeithlon, ond ei wrthod mewn meysydd sy’n ein gwneud yn llai dynol. Wedi’r cyfan, gweithred ddynol yw cyfathrebu, ac i lwyddo rhaid dehongli, deall a dewis geiriau ystyrlon sy’n gweddu i’r lleoliad, y diwylliant, a’r cyd-destun.
Aelod o deulu creadigol ehangach
Mae Cyfatebol yn un o deulu o wasanaethau creadigol ehangach, sy’n cynnwys busnesau arbenigol ym meysydd cyhoeddi, addysg, teledu, a chynhyrchu creadigol.