Amdanom

Cyfatebol yn enw masnachu Atebol sy’n darparu gwasanaethau cyfieithu, clywedol ac isdeitlo proffesiynol yn ogystal â golygu a phrawfddarllen. Mae’r tîm yn cynnwys cyfieithwyr proffesiynol sy’n canolbwyntio ar sicrhau cywair a lefel iaith addas i’r gynulleidfa darged.

Mae gennym dîm proffesiynol o gyfieithwyr a golygyddion cymwys ac achrededig gyda mwy na chwarter canrif o brofiad o baratoi cyfieithiadau, isdeitlo, golygu a phrawf ddarllen i’n cleientiaid amrywiol yn y sectorau cyhoeddus a masnachol. Mae Atebol yn Gwmni Cydnabyddedig gyda Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. 

Mae ein tasgau cyfieithu yn amrywio o deitl swydd 3 gair i gyfres o ddogfennau cysylltiol sydd dros filiwn o eiriau. Mae ein profiad o gyfieithu’n cynnwys paratoi cyfieithiadau prif ffrwd, isdeitlo byw neu isdeitlo ymlaen llaw, paratoi adnoddau amlgyfrwng, cyfieithiadau technegol a chyfreithiol a thestunau cofiadwy ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd.  

Ydych chi eisiau ...

Ymweld a atebol.com

Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfieithu a Lleoli

Bydd yr arddull a fabwysiedir yn gydnaws â gofynion y gynulleidfa darged.

Gwasanaethau Isdeitlo

Mae ein tîm cyfieithu ac isdeitlo proffesiynol wedi hen ennill eu plwy.

Gwasanaethau Golygu a Phrawfddarllen

Cymwys, achrededig a phroffesiynol. Dyna grynhoi’n dwt ein tîm o gyfieithwyr a golygyddion.

Gwasanaethau Clywedol

Cynnwys gwreiddiol a diddorol sydd wedi ennill gwobrau ym maes ffilm a gwasanaethau clywedol.

Gwasanaethau Digidol a Dylunio

Tîm dylunio mewnol ynghyd â thîm sy’n paratoi gwasanaethau ar gyfer y we a darpariaeth ddigidol ac sy’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm cyfieithu.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Angen dangos eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol?

Gwasanaeth cyhoeddi drwy atebol.com

Rydym hefyd yn gwmni cyhoeddi blaenllaw a blaengar. Rydym yn cyhoeddi deunyddiau print a darpariaeth ddigidol, gan gynnwys paratoi apiau a gwefannau.

Adborth ein cleientiaid

“Atebol picked up the brief very quickly, and responded creatively and professionally, delivering to very tight deadline to support our marketing campaign.  I was impressed with how they adjusted their processes to match our needs and deliver an exceptional high quality outcome”

Mike Donovan Founder & CEO Brushbox Limited

“We’re very greatful to Atebol for their support with the adaption of Gangsta Granny to a talking book cumulating in a prestigious award in New York!”  

RNIB

  “It was a huge pleasure working with Atebol – a friendly firm with high levels of professionalism and a strong sense of community. I was thrilled that their hard work on our project was rewarded with the prestigious Geographical Association’s Silver Award in 2018.”

Simon Ross

Meddalwedd cyfieithu

Rydym yn defnyddio Transflo sef meddalwedd unigryw a phwrpasol i reoli llif gwaith y dogfennau sydd i’w cyfieithu.  Mae’r meddalwedd hwn yn ein galluogi i gadw golwg ar hynt pob dogfen gan sicrhau bod modd rheoli’r gwaith yn effeithiol er mwyn cadw at ddyddiadau cwblhau penodol.

Mae Cyfatebol yn buddsoddi mewn cof cyfieithu sy’n ein cynorthwyo i sicrhau cysondeb rhwng un ddogfen a’r llall. Mae hefyd yn gyfrwng i greu cronfa y gellir manteisio arni gan y tîm cyfieithu cyfan.

EISIAU GWYBOD MWY AM EIN CWMNI? CHWILFRYDIG BETH ARALL RYDYM NI'N EI WNEUD?

Gwasanaeth o Safon

Ein dulliau Gweithio

Fe glustnodir rheolwr penodol ar gyfer pob cleient a fydd yn gwarantu eich bod yn trafod y gwaith gyda’r un person pob tro. Os bydd amgylchiadau na ragwelwyd yna bydd dirprwy reolwr yn gyfrifol am gymryd yr awenau er mwyn gwarantu dilyniant. Byddai’n bosibl i chi hefyd i gysylltu’n uniongyrchol ag aelod o’r Uwch Dîm Rheoli os bydd angen.

Rheoli’r Gwaith

Mae gan Cyfatebol drefn reoli gydnabyddedig sy’n ein galluogi i reoli’r llif gwaith cyfieithu ar gyfer pob cleient. Mae hyn yn ei dro yn ein galluogi i ymateb i ofynion pob cleient o ran sicrhau gwaith o safon a chadw at amserlen.

Tîm Cyfieithu Proffesiynol a Chymwys

Mae Cyfatebol yn fedrus o ran paratoi cyfieithiadau ar gyfer ystod eang o ofynion gan gynnwys isdeitlo. Mae’r tîm yn brofiadol mewn paratoi cyfieithiadau i’r Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.

Diogelwch a’n Defnydd o’r Cwmwl

Mae Cyfatebol yn dilyn gweithdrefnau gweithio priodol i sicrhau diogelwch a chyfrinachedd. Caiff y cyfan o’n dogfennau eu rheoli, eu harbed a’u storio yn y Cloud, a dim ond staff sydd ag awdurdod yn unig fydd yn gallu cael mynediad. Mae hyn hefyd yn golygu mynediad at ddata drwy gyfrwng unrhyw ddyfais ar unrhyw adeg acv felly gallwn weithio yn adeiladau’r cleient os byddai angen.