Rydym yn defnyddio TransFLOW© sef meddalwedd unigryw a phwrpasol i reoli llif gwaith y dogfennau sydd i’w cyfieithu. Mae’r meddalwedd hwn yn ein galluogi i gadw golwg ar hynt pob dogfen gan sicrhau bod modd rheoli’r gwaith yn effeithiol er mwyn cadw at ddyddiadau cwblhau penodol.
Mae manteision TransFLOW© yn cynnwys y gallu i allforio a chyflwyno adroddiadau a data, dosbarthu gwaith a gwelededd, anfonebu cleientiaid, blaenoriaethu a dyraniad priodol, gwella cynhyrchedd a gallu rheoli a hygyrchedd data mewn unrhyw leoliad.