Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfieithu a Lleoli

Mae gan Cyfatebol brofiad hir o weithio gyda phartneriaid a chleientiaid er mwyn gallu ymateb yn llawn i ofynion y cleient o ran cywair iaith a darllenadwyedd. Bydd yr arddull a fabwysiedir yn gydnaws â gofynion y gynulleidfa darged. Mae’r tîm wedi profi eu bod yn gallu ymateb i ofynion ein cleientiaid o ran cywirdeb, cysondeb a’r gallu i ymateb i amserlenni tynn. Rydym hefyd yn cynnig gwasaneth cyfieithu a lleoli ar gyfer Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.

Gwasanaethau Isdeitlo

Mae aelodau o’n tîm wedi bod yn darparu gwasanaethau isdeitlo i S4C a nifer o’r cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru am dros 23 o flynyddoedd. Mae gan ein tîm cyfieithu enw da o weithio mewn partneriaeth a’n cleientiaid a’n partneriaid o ran darparu gwasanaethau cyfieithu, golygu a phrawf ddarllen.

Gwasanaethau Golygu a Phrawfddarllen

Cymwys, achrededig a phroffesiynol. Dyna grynhoi’n dwt ein tîm o gyfieithwyr a golygyddion. Yn union beth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i baratoi eich gwaith cyfieithu, boed hynny ar gyfer deunydd print neu ddarpariaeth ddigidol. Byddwn am wneud yn siŵr pob amser ein bod yn ymateb yn llawn i ofynion eich cynulleidfa darged. Byddwn hefyd yn gosod pwyslais amlwg ar ddefnyddio Cymraeg Clir ynghyd â’r termau cywir.

Gwasanaethau Clywedol

Yn ystod 2018 bu’r cwmni yn llwyddiannus yn ennill Gwobr Arian y Gymdeithas Ddaearyddol am ddatblygu cyfres o chwe rhaglen ynghyd a deunydd print ar gyfer Sgiliau Ymholi a Gwaith Maes mewn Daearyddiaeth. Ar y llwyfan rhyngwladol, fe lwyddom i gipio gwobr ryngwladol yn Efrog Newydd gyda RNIB Cymru am ddarpariaeth glywedol o un o deitlau David Walliams yn Gymraeg.

Gwasanaethau Digidol a Dylunio

Mae gan Atebol hefyd dîm dylunio a thîm sy’n paratoi gwasanaethau ar gyfer y we a darpariaeth ddigidol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm cyfieithu. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu darparu gwasanaeth cyflawn dan yr un to ar gyfer ein cleientiaid. Gallwn ymdrin â dogfennau Microsoft Office, HTML, XLIFF, XML, JS, JSON, YAML ac eraill. Rydyn ni’n defnyddio caledwedd PC ac AppleMac ynghyd a meddalwedd fel QuarkXPress, InDesign, Photoshop, Illustrator, Acrobat Pro a nifer o rai eraill. Mae llawer o’n cleientiaid yn ymddiried ynom i gael mynediad uniongyrchol i’w cronfa ddata a CMS ynghyd â’r rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn i ni allu mewnbynnu testun a gyfieithwyd ar eu rhan. Rydym yn defnyddio Silverstripe, Magento, Joomla a WordPress v3.x a 4.x yn rheolaidd. Rydyn yn gallu gweithio gydag unrhyw system CMS sy’n cael ei ddefnyddio gan y cleient.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae ein staff proffesiynol yn gallu darparu testun fydd yn cyfleu'r union negeseuon i ddenu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd y testun a fydd yn cael ei baratoi gan y tîm yn siŵr o daro deuddeg gyda’ch cynulleidfa!

Gwasanaeth cyhoeddi drwy atebol.com

Bwriad ein cyhoeddiadau ydy diddanu, addysgu ac ysbrydoli. Mae ein cyhoeddiadau yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwahanol feysydd a genres a hynny ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Ni hefyd ydy’r cyhoeddwr gemau, gan gynnwys gemau iaith, mwyaf yng Nghymru. Cofiwch gysylltu os bydd gennych syniad ar gyfer llyfr newydd neu yn wir unrhyw gyfrwng arall! Rydyn ni yma i helpu i droi’r freuddwyd yn realiti!